AC(4)2012(2) Papur 6 rhan 1

Dyddiad: Dydd Iau 8 Mawrth 2012
Amser:
    11.00 – 13.00
Lleoliad:
  Swyddfa’r Llywydd
Enw a rhif cyswllt yr awdur:
  Carys Evans, est 8598

Portffolios Comisiwn y Cynulliad

1.0    Diben a chrynodeb

1.1     Mae’r papur hwn yn gwahodd Comisiynwyr y Cynulliad i roi diweddariad ar lafar am eu portffolios.

Portffolio

Comisiynydd

Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn, cyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Cyfreithiol.

Rosemary Butler AC

Y gyllideb, llywodraethu, gan gynnwys aelodaeth y Pwyllgor Archwilio, a chysylltiadau â’r Bwrdd Taliadau. Gwella gwasanaethau i Aelodau, cymorth cyflogaeth a datblygu proffesiynol ar gyfer Aelodau a’u staff.

Angela Burns AC

TGCh, darlledu ac e-ddemocratiaeth, ystâd y Cynulliad, cyfleusterau a chynaliadwyedd. Y Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad

Peter Black AC

Gwasanaethau addysg, cyswllt cyntaf, arlwyo a diogelwch. Swyddogaethau statudol y Comisiwn mewn perthynas â chydraddoldeb a rhyddid gwybodaeth.

Sandy Mewies AC

Ymgysylltu a chyfathrebu â’r dinesydd, allgymorth cenedlaethol a rhyngwladol. Swyddogaethau a pholisi’r Comisiwn mewn perthynas â’r Gymraeg.

Rhodri Glyn Thomas AC

 

Er nad yw David Melding, y Dirprwy Lywydd, yn aelod ffurfiol o’r Comisiwn, cytunwyd y bydd yn cefnogi’r Comisiwn drwy ganolbwyntio ar y Pierhead fel canolfan ar gyfer datblygu a thrafod yn y Cynulliad, ac ar gysylltiadau â Chanolfan Llywodraethiant Cymru a sefydliadau eraill sy’n berthnasol i’r rôl hon.